Please click to open
File size: 66 KB (PDF File)
Gweledigaeth y Cwricwlwm
Yn Ysgol Gorslas rydym yn darparu Cwricwlwm eang a chytbwys mewn amgylchfyd hapus, iach a diogel o fewn cymuned gofalgar.
Trwy gyfoeth o brofiadau, datblygwn unigolion gwybodus ac uchelgeisiol gan feithrin gwerthoedd clir sy'n creu dinasyddion hyderus ac egwyddorol.
Anelwn i gael pawb i wneud eu gorau glas i gyrraedd y brig a chreu cyfranogwyr mentrus a chreadigol.
Mae Ysgol Gynradd Gorslas yng nghanol pentref Gorslas. Mae'r wefan hon wedi cael ei baratoi i roi gwybod i ddarpar rieni a chynulleidfa ehangach am y paratoadau niferus ac amrywiol sydd yn cael eu gwneud gan ddisgyblion yr ysgol.
Defnyddiwch y botymau llywio uchod i'ch tywys o gwmpas y wefan i gael rhagor o wybodaeth am yr ysgol.
Ein Gweledigaeth
I greu amgylchedd dysgu hapus, diogel ac ysgogol
lle gall pob aelod o gymuned yr ysgol fagu hyder
a datblygu eu llawn potensial trwy gyfrwng yr
Iaith Gymraeg. Rydym ni yn Ysgol Gorslas yn anelu
at greu awyrgylch dysgu hapus a diogel drwy
ddarparu ar gyfer datblygiad cymdeithasol,
emosiynol a meddyliol pob disgybl gan hybu
disgwyliadau uchel bob amser. Anelwn at sicrhau
bod pob disgybl yn cael cyfleoedd i ddatblygu i’r
eithaf mewn ysgol ofalgar, gefnogol a digidol ddwyieithog.
Cliciwch ar y linc isod i gofrestru i'r Clwb Gofal Menter Cwm Gwendraeth ar nos Lun
Bookings Checkout | Y Cwtsh